Help / Cymorth

Blog Vaughan Roderick homepage

Cau'r Siop

Vaughan Roderick | 13:05, Dydd Mercher, 10 Ebrill 2013

Sylwadau (0)

Fe fydd y siop fach hon yn cau ei drysau yn ystod y dyddiau nesaf. Na phoener - fe fydd y cyfan o'r cynnwys yn cael ei gadw fel archif ac fe fydd archfarchnad swanc newydd yn agor ar yr un safle cyn bo hir.

Oce- rwy'n gor-ddweud. Ni'n ail-addurno'r blog ac ni fydd modd gadael sylwadau am ychydig ddyddiau.

Hyhi

Vaughan Roderick | 13:52, Dydd Mawrth, 9 Ebrill 2013

Sylwadau (3)

Mae'n ymddangos bod pob copa walltog yn y byd gwleidyddol wedi cael cyfle i ddweud ei ddweud ynghylch y Farwnes Thatcher yn ystod y pedair awr ar hugain diwethaf. Oes yna unrhyw beth ar ôl i ddweud, dywedwch?

Gormod o bwdin dagiff gi ac efallai eich bod wedi cael hen ddigon erbyn hyn ond rwyf am fentro i'r fei unwaith yn rhagor.

Oscar Wilde piau'r geiriau "all men kill the things they love" a'r cwestiwn sy gen i yw hwn - a wnaeth Margaret Thatcher, yn ddiarwybod iddi ei hun, blannu hadau dinistr y wladwriaeth yr oedd hi'n eu llywodraethu drosti ac oedd yn destun ei gwladgarwch amlwg?

Yr wythnos hon cyhoeddodd Wikileaks lwyth o ohebiaeth rhwng llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain a'r awdurdodau yn Washington. Yn eu plith mae adroddiad o 1976 sy'n dwyn y teitl "The Tories and Devolution" ac yn mynegi pryder ynghylch agwedd Margaret Thatcher, oedd yn arweinydd yr wrthblaid ar y pryd, tuag at ddatganoli grym i Gymru a'r Alban. Dyma mae'n ei ddweud.

"The present difficulty also confirms criticisms of Mrs Thatcher's leadership which were made at the time of her latest shadow cabinet reshuffle, that she was moving the party perceptibly to the right and narrowing the base of the party's appeal... The Tories now appear to be the voice of the English backlash on devolution, increasingly rigid in opposing devolution."

Mae'n anodd credu hyn nawr ond cyn ethol Margaret Thatcher yn arweinydd doedd y Torïaid ddim yn gwbwl penstiff yn erbyn datganoli. Yn wir pe na bai Margaret Thatcher wedi trechu Edward Heath mae'n ddigon posib y byddai Llafur a'r Ceidwadwyr wedi gallu cyrraedd consensws ynghylch datganoli yn y 70au ac y byddai Cynulliadau wedi cael eu sefydlu yn yr Alban a Chymru heb hyd yn oed gofyn i'r cyhoedd l leisio eu barn mewn refferendwm.

Pe bai hynny wedi digwydd ni fyddai cefnogi datganoli wedi troi'n gyfystyr bron a gwrthwynebu Thatcheriaeth yn ystod blynyddoedd ei theyrnasiad. Yn sicr roedd "diogelu Cymru rhag Thatcher arall" yn un o brif ddadleuon ymgyrchwyr dros ddatganoli yn refferendwm 1997.

Yn yr Alban roedd effaith arweinyddiaeth Margaret Thatcher hyd yn oed yn fwy dramatig. Yn Etholiad Cyffredinol 1955 fe enillodd y Blaid Geidwadol dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd yn yr Alban. Erbyn hyn mae'n ymylu ar fod yn blaid ymylol - ac yn ystod cyfnod Margaret Thatcher y gwnaed y difrod.

O streic y glowyr i dreth y pen roedd hi fel pe bai Margaret Thatcher yn ceisio cythruddo'r Albanwyr yn fwriadol. Nid dyna oedd ei bwriad ond roedd yn ymddangos felly i lawer. Roedd hyd yn oed yr acen a'r llais yn dân ar groes i rai.

Os ydy'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth flwyddyn nesaf dyna ddiwedd ar y Deyrnas Unedig ar ei ffurf bresennol. Mae hynny'n os go fawr ond mae'n anodd osgoi'r casgliad na fyddai'r os hyd yn oed yn codi oni bai am Margaret Thatcher.

Oni fyddai'n eironig pe bai'r Farwnes Thatcher yn cael ei chofio yn y diwedd nid oherwydd y Falkands na threth y pen na streic y glowyr ond fel bydwraig annibyniaeth yr Alban ac awdur dinistr y deyrnas ?

Drygioni Deg o Ni

Vaughan Roderick | 09:21, Dydd Iau, 4 Ebrill 2013

Sylwadau (4)

Dyma i chi gyffesiad. Ar y cyfan dydw i ddim yn hoffi newyddiadura ynghylch y cyfryngau na'r Gymraeg. Maen nhw'n bynciau sy'n rhy agos at adref rhywsut. Serch hynny o bryd i gilydd mae rhywbeth yn fy ngwylltio neu'n fy niddori digon i fy nhemtio i'r meysydd hynny.

Digwyddodd hynny rhai misoedd yn ôl ar ôl i mi gael fy nhrin yn ofnadwy o wael gan yr Office of National Statistics ar ôl gofyn am wasanaeth Cymraeg. Fe sortiwyd y peth gan swyddfa'r Comisiynydd Iaith yn y diwedd ac fe ges i wasanaeth Cymraeg. Dydw i ddim eto wedi derbyn ymddiheuriad gan yr ONS nac hyd yn oed llythyr yn cydnabod y gwyn.

Nawr bant a fi eto. Ydych chi'n cofio'r stori yma o fis Hydref y llynedd?

Roedd hi'n ymddangos yn wirion ar y pryd bod y "Gronfa Loteri Fawr" yn gwrthod rhoi cymorth i bapur bro Cymraeg ar y sail nad oedd ei wefan yn ddwyieithog. Ymddengys bod y gronfa wedi sylweddoli pa mor hurt oedd ei safiad ac yn dawel fach cafodd y penderfyniad ei wyrdroi.

Wrth gwrs cymdeithas fach llaw i geg yw cyhoeddwyr y Gloran. Ydy plismyn iaith y Gronfa Loteri Fawr yr un mor frwdfrydig ynghylch dwyieithrwydd wrth ddelio ac elusennau llawer mwy sy'n gweithio yn bennaf trwy'r Saesneg?

Dim ffiars o beryg.

Derbyniodd elusen "Tenovus" sydd a'i phencadlys yng Nghaerdydd bron i filiwn o bunnau i sefydlu corau i gleifion sy'n brwydro cancr. Mae'n syniad wych. Does dim byd yn fwy Cymreig a Chymraeg na chôr. Beth sydd gan wefan Tenovus i ddweud am y cynllun?

"Mae Tenovus yn gweithio i'r eithaf i ddarparu gwybodaeth yn y Gymraeg ble bynnag posib, ond ar hyn o bryd nid oes gennym cyllid nag adnoddau i gynnig gwefan dwyieithog."

Et tu, Tenovus?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.